Gabrielle Roy | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Mawrth 1909 ![]() Saint Boniface ![]() |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1983 ![]() Québec ![]() |
Man preswyl | Maison Gabrielle-Roy ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, athro, awdur storiau byrion, newyddiadurwr ![]() |
Adnabyddus am | Bonheur d'occasion, Children of My Heart, Rue Deschambault ![]() |
Arddull | nofel, stori fer, tale, hunangofiant ![]() |
Priod | Marcel Carbotte ![]() |
Gwobr/au | Prix Femina, Gwobr Molson, Cydymaith o Urdd Canada, Gwobr Athanase-David, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, person hanesyddol dynodedig, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol, Prix littéraire du Gouverneur général, Prix littéraire du Gouverneur général, Prix littéraire du Gouverneur général ![]() |
Awdures o Ganada oedd Gabrielle Roy (22 Mawrth 1909 - 13 Gorffennaf 1983) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, athro ac awdur storiau byrion. Ceir dyfyniad ganddi ar gefn papur $20 Canada: "Ydy hi'n bosib i ni adnabod ein gilydd heb y celfyddydau?"[1] Mae llawer yn ystyried ei bod yn un o awduron Ffrengig pwysicaf hanes Canada ac yn un o awduron mwyaf dylanwadol y wlad.
Fe'i ganed yn Saint Boniface (rhan o Winnipeg heddiw) a bu farw yn Québec.[2][3][4]
Mynychodd gAcadémie Saint-Joseph ac yna hyfforddodd fel athro yn y Winnipeg Normal School. Wedi hynny dysgodd mewn sawl ysgol gwledig yn Marchand a Cardinal cyn iddi gael ei phenodi i Institut Collégial Provencher yn Saint Boniface.[5] [6][7][8]
Gyda'i chynilion, llwyddodd i dreulio peth amser yn Ewrop, ond bu'n rhaid iddi ddychwelyd i Ganada yn 1939 pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Dychwelodd gyda rhai o'i gweithiau llenyddol bron â gorffen, ac ymsefydlodd yn Québec i ennill bywoliaeth fel arlunydd tra'n parhau i ysgrifennu.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search